PAC(4) 16-13 – Papur 1

 

 

Diweddariad i Adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru ar Arlwyo mewn Ysbytai a Maeth Cleifion

 

 

Argymhellion Adroddiad y Pwyllgor

 

 

Y Sefyllfa Bresennol

1

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau atodol i holl gyrff y GIG yng Nghymru yn nodi'n glir na ddylai polisi amseroedd bwyd a ddiogelir gael ei ddefnyddio i eithrio perthnasau a gofalwyr rhag helpu cleifion i fwyta, a bod y perthnasau a'r gofalwyr hynny sy'n dymuno helpu adeg bwyd gael eu hannog i wneud hynny gan staff y ward.

 

Anfonwyd llythyr gan y Prif Swyddog Meddygol/Prif Swyddog Nyrsio ym mis Mawrth 2012 yn atgoffa holl gyrff y GIG yng Nghymru bod amseroedd bwyd a ddiogelir yn rhan annatod o Lwybr Gofal Maethol Cymru Gyfan 2009, a bod angen i bob ysbyty gydymffurfio â hynny.

 

Nododd y llythyr yn glir na ddylai polisïau amseroedd bwyd a ddiogelir gael eu defnyddio i eithrio perthnasau a gofalwyr rhag helpu cleifion i fwyta, a bod y perthnasau a'r gofalwyr hynny sy'n dymuno helpu adeg bwyd gael eu hannog i wneud hynny gan staff y ward.

 

Tynnodd y llythyr sylw hefyd at enghreifftiau o arfer gorau ledled Cymru a ddangosir ar wefan Fframwaith Maeth ac Arlwyo mewn Ysbytai, yn seiliedig ar fewnrwyd Iechyd yng Nghymru (HOWIS gynt).

 

Rydym wrthi'n gweithio gyda Chymdeithas yr Arlwywyr Ysbytai, a fydd yn lansio ymgyrch yn canolbwyntio ar bwysigrwydd amseroedd bwyd a ddiogelir yn yr haf, er mwyn sicrhau y cyfleir negeseuon priodol.

 

Nododd Archwiliad Hanfodion Gofal 2012 fod yn rhaid i bob BILl/Ymddiriedolaeth GIG Felindre gael polisïau amseroedd bwyd a ddiogelir a bod gan 76.4% o wardiau amseroedd bwyd a ddiogelir a bod y 13.6% sy'n weddill wrthi yn eu cyflwyno.

 

Mae'r BILlau/Ymddiriedolaeth GIG Felindre oll wedi nodi nad yw eu polisïau amseroedd bwyd a ddiogelir yn eithrio perthnasau a gofalwyr rhag helpu eu cleifion i fwyta, a bod y perthnasau a'r gofalwyr hynny sy'n dymuno helpu adeg bwyd yn cael eu hannog i wneud hynny.

 

2

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn rhoi nodyn cyfarwyddyd Swyddfa Archwilio Cymru 'Bwyta'n Iach yn yr Ysbyty - Yr Hyn y Dylech ei Ddisgwyl' i bob claf ysbyty yng Nghymru ar adeg eu derbyn.

Roedd nifer o BILlau eisoes yn cynnwys gwybodaeth debyg i'r hyn a geir yn nodyn cyfarwyddyd Swyddfa Archwilio Cymru 'Bwyta'n Iach yn yr Ysbyty - Yr Hyn y Dylech ei Ddisgwyl' yn y pecynnau a roddant i gleifion pan gânt eu derbyn.

 

Anfonwyd llythyr Prif Swyddog Meddygol/Prif Swyddog Nyrsio ym mis Mawrth 2012 i holl gyrff y GIG yng Nghymru yn nodi'n glir, lle nad oedd BILlau/Ymddiriedolaeth Felindre yn dilyn yr arfer hwn, fod disgwyl iddynt naill ai ymgorffori'r wybodaeth hon ar faeth yn eu deunyddiau derbyn cleifion neu i anfon nodyn cyfarwyddyd Swyddfa Archwilio Cymru 'Bwyta'n Iach yn yr Ysbyty - Yr Hyn y Dylech ei Ddisgwyl' at bob claf ysbyty yng Nghymru ar adeg ei dderbyn. Darparwyd dolen i'r PDF i'r sefydliadau hynny sy'n defnyddio cyhoeddiad Swyddfa Archwilio Cymru, i'w galluogi i argraffu copïau yn lleol.

 

3

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau bod cynnydd sefydliadau'r GIG wrth gyflawni eu cynlluniau gweithredu eu hunain yn cael ei fonitro'n llym a'i fod ar gael yn gyhoeddus.

 

Mae cyrff y GIG yn gyfrifol am fonitro'r gwaith o gyflawni eu cynlluniau gweithredu unigol eu hunain ar arlwyo a maeth, a dylai Byrddau'r GIG graffu ar gynnydd drwy eu Pwyllgorau Archwilio. Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff iechyd gynnwys eu cynlluniau gweithredu a'u diweddariadau ar gynnydd ar eu gwefannau. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn monitro'r ymrwymiad hwn a chydymffurfir yn llawn â hyn.

 

 

4

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn monitro cynnydd cyrff y GIG wrth gyflawni ei chanllawiau, gan gynnwys cyrchu bwyd lleol sy'n cyfrannu at ddeiet cytbwys iach i gleifion lle y bo'n bosibl.

 

Cynhelir y gwaith o archwilio cydymffurfiaeth â Llwybr Gofal Maethol Cymru Gyfan a Safonau Maeth ac Arlwyo Cymru Gyfan ar gyfer Bwyd a Diod  i Gleifion Preswyl mewn Ysbytai  ym mhob un o gyrff perthnasol y GIG drwy broses Archwilio Flynyddol Hanfodion Gofal. Mae Hanfodion Gofal - Bwyta ac Yfed Safon 9 wedi cael ei fapio yn erbyn Gwneud yn Dda, Gwneud yn Well: Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cymru: Safon 5 - Cynnwys y Dinesydd a Chael Adborth; Safon 8 - Cynllunio a Darparu Gofal; a Safon 14 - Maethiad. Mae hyn yn sicrhau bod y broses archwilio yn cwmpasu'r Llwybr cyfan a'r Safonau Maeth ac Arlwyo.

 

Ers 2009 mae'n ofynnol i sefydliadau'r GIG gynnal archwiliad llawn o'u holl wardiau/adrannau ysbyty yn flynyddol a chyflwyno'r canlyniadau i'r Prif Swyddog Nyrsio/Cyfarwyddwr Nyrsio Cymru. Gall y system electronig sy'n sail i'r dull archwilio ddadansoddi a chreu adroddiadau o'r data a gofnodir ar lefel ward. Mae hefyd yn galluogi pob ward i ddatblygu cynlluniau gweithredu i fynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n peri pryder yn ogystal ag adeiladu ar feysydd o arfer da. Mae cyrff y GIG yn adrodd ar amrywiaeth o ddulliau i rannu'r canlyniadau â grwpiau perthnasol o staff. Mae cyflwyno dull dilysu annibynnol ar gyfer y Broses Archwilio Hanfodion Gofal wrthi'n cael ei ystyried.

 

Mae cydymffurfiaeth mewn wardiau ysbyty ledled Cymru ag Archwiliad Hanfodion Gofal Safon 9: Bwyta ac Yfed, (cynigir dewis o fwyd a diod i chi sy'n bodloni eich gofynion maethol a phersonol a chewch unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch i fwyta ac yfed) wedi cynyddu o gyfartaledd o 82% yn 2009 i 92% yn 2012 (gweler atodiad 1 am ddadansoddiad manwl gan BILl/Ymddiriedolaeth GIG Felindre).

 

Cyhoeddwyd crynodeb o ganlyniadau Archwiliad Hanfodion Gofal 2011 ar wefan Llywodraeth Cymru, gwefan y Comisiynydd Pobl Hŷn a Gwefan y Cynghorau Iechyd Cymuned. Caiff canlyniadau 2012 eu cyhoeddi erbyn diwedd mis Mai 2013.

 

Bydd y Prif Swyddog Nyrsio yn ymdrin ag unrhyw faterion sy'n codi o'r archwiliad yn ei chyfarfodydd rheolaidd â'r Cyfarwyddwyr Nyrsio.

 

Er mwyn cefnogi'r gwaith o roi Fframwaith Bwydlenni Ysbytai Cymru Gyfan ar waith mae BILlau wedi cyd-ariannu penodiad swydd deietegydd caffael o fewn Partneriaeth Cydwasanaethau'r GIG - Gwasanaethau Caffael. Mae'r deietegydd, a ddechreuodd yn y swydd ym mis Chwefror, yn cefnogi'r gwaith o sefydlu contractau caffael Cymru gyfan ar gyfer y prydau bwyd ar y Fframwaith, a fydd yn ystyried mater cyrchu yn lleol.

 

5

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi manylion i ni am sut a phryd y gallwn ddisgwyl i dargedau lleihau gwastraff gael eu cyrraedd.

 

 

Roedd yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru i bob sefydliad yn y GIG gyflawni cyfartaledd cyffredinol o 10 y cant neu lai o wastraff mewn perthynas â phrydau bwyd heb eu cyffwrdd ar bob un o'u safleoedd ysbyty erbyn diwedd 2012-13. Caiff y gwaith o gydymffurfio â hyn ei fonitro drwy eu cynlluniau gweithredu a chan System Rheoli Perfformiad Ystadau a Chyfleusterau. Mae'r BILlau/Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi rhoi mesurau ar waith i gyrraedd y targed hwn ac mae tystiolaeth o ffurflenni EFPMS 2011-12 yn dangos bod cynnydd yn cael ei wneud.

 

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Llywodraeth yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r corff a noddir gan y Llywodraeth sef WRAP (Rhaglen Gweithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau) i ddatblygu cytundeb gwirfoddol ar gyfer y Sector Lletygarwch. Mae hyn yn cynnwys targed lleihau gwastraff o bump y cant ar gyfer bwyd a gwastraff deunydd pacio erbyn 2015. Mae hefyd yn cynnwys targed ar gyfer cynyddu cyfradd y bwyd a'r gwastraff deunydd pacio sy'n cael ei hailgylchu, ei chompostio neu ei hanfon i safle treulio anaerobig erbyn 2015 (mae targed wrthi'n cael ei bennu â'r diwydiant). Bydd y cytundeb yn cynnwys gwasanaeth arlwyo mewn ysbytai, ar gyfer gwasanaethau i gleifion a rhai nad ydynt yn ymwneud â chleifion. Lansiwyd y cytundeb ym mis Mai 2012 ac anogir pob un o sefydliadau'r GIG i gymryd rhan.

 

6

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau yr arddangosir sgoriau hylendid bwyd yn gyhoeddus ym mhob ysbyty yng Nghymru.

 

Ers mis Hydref 2010 mae'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wedi bod ar waith ar sail wirfoddol yng Nghymru. Caiff ei redeg gan Awdurdodau Lleol mewn partneriaeth â'r Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae Awdurdodau Lleol yn cynnal archwiliadau o fusnesau bwyd er mwyn cadarnhau eu bod yn bodloni gofynion cyfraith hylendid bwyd. Yn seiliedig ar yr archwiliad hwn, bydd yr awdurdod lleol yn cyfrifo'r sgôr ac yn anfon sticer gyda'r sgôr hylendid bwyd i'r busnes bwyd. Anogir y busnes bwyd i arddangos y sticer ar y safle; cyhoeddir pob sgôr hefyd ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

 

Yn dilyn ymgynghoriad yn 2012 penderfynodd Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth i'w gwneud yn orfodol i bob busnes bwyd yng Nghymru arddangos ei sgôr hylendid bwyd yng Nghymru. Cafodd Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 Gydsyniad Brenhinol ar 4 Mawrth 2013 a daw i rym o fis Tachwedd 2013. Bydd hyn yn cwmpasu gwasanaethau arlwyo mewn ysbytai.

 

Fel mesur dros dro ysgrifennodd y cyn-Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at holl Brif Weithredwyr a Chadeiryddion Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG ym mis Chwefror 2012 i sôn am gynllun gwirfoddol yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Gofynnodd y llythyr i bob ysbyty a phob un o safleoedd GIG Cymru a oedd wedi cael sgôr hylendid bwyd gan eu Hawdurdod Lleol i'w harddangos mewn man lle y gallai defnyddwyr ei gweld yn hawdd.

 

7

Rydym yn gofyn i'r Swyddog Cyfrifyddu roi cynllun i ni yn nodi sut a phryd y bydd Llywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd Lleol wedi gwneud y gwelliannau a argymhellwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol.

Lluniwyd cynllun ac fe'i hanfonwyd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ym mis Awst 2012.

 

Manylir ar y sefyllfa bresennol o ran argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol ar gyfer Llywodraeth Cymru yn ail ran yr adroddiad hwn.

 

Mae cynnydd o ran gweithredu argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol ar gyfer BILlau/Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn ei adroddiad cenedlaethol Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai wedi ei fonitro gan Lywodraeth Cymru drwy adroddiadau ddwywaith y flwyddyn gan y BILlau/Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Mewn adroddiadau a gafwyd ym mis Ebrill 2013 mae pob BILl/Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn nodi eu bod wedi gweithredu'r rhan fwyaf o'r argymhellion ac yn tynnu sylw at waith sy'n mynd rhagddo er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio. Adlewyrchir hyn yn y gydymffurfiaeth gynyddol â'r Archwiliad o Hanfodion Gofal Safon 9 fel y crybwyllir yn Atodiad 1. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro cydymffurfiaeth cyrff y GIG ac yn codi unrhyw faterion sy'n peri pryder gyda BILlau unigol/Ymdddiriedolaeth y GIG.

 

Mae'r camau gweithredu heb eu cymryd gan Lywodraeth Cymru a'r BILlau/Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn gysylltiedig â gweithredu'n llawn y datrysiad TG ar gyfer y Gwasanaeth Arlwyo Cenedlaethol gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - Gwasanaethau Cyfleusterau (NWSSP-FS) sef Stadau Iechyd Cymru gynt a hefyd â datblygu Fframwaith Bwydlenni Ysbytai Cymru Gyfan. Gweler adrannau 2 a 3 isod am fanylion pellach am y cynnydd sy'n cael ei wneud ar yr agendâu hyn.

 

 

Argymhellion Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru

 

 

Y Sefyllfa Bresennol

1

Bod Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn cyhoeddi dogfennaeth nyrsio safonol i Gymru gyfan er mwyn hyrwyddo prosesau sgrinio maethol a chynllunio gofal cyson, ac er mwyn helpu i sicrhau yr ystyrir meysydd pwysig, fel iechyd y geg, yn briodol.

 

Mae Llwybr Gofal Maethol Cymru Gyfan, Siart Cofnodi Bwyd a Siart Bwyta ac Yfed Dyddiol ac Wythnosol yn cael eu defnyddio fel dogfennaeth nyrsio safonol ledled Cymru. Mae'r bwndel gofal y geg newydd, a lansiwyd yn 2012 ac sy'n cael ei gyflwyno ledled Cymru, yn cynnwys dull asesu safonol a chanllawiau cynllunio gofal.

 

Sefydlwyd is-grŵp o'r Grŵp Ôl-weithredu Rhyddid i Arwain, Rhyddid i Ofalu er mwyn adolygu'r holl ddogfennaeth nyrsio gyda'r bwriad o'i safoni ledled Cymru. Mae set ddata safonol o adroddiadau nyrsio bellach ar gael ar wefan e-Lawlyfr Llywodraethu GIG Cymru. Mae Gwasanaethau Gwybodaeth GIG Cymru wrthi'n gweithio gyda Swyddfa'r Prif Swyddog Nyrsio i addasu'r set ddata ar adroddiadau i fformat digidol.

 

2

Bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ymarferoldeb cyflwyno cronfa ddata genedlaethol o fwydlenni safonol, wedi'u hasesu'n faethol fel ffordd o osgoi dyblygu ymdrech ym mhob un o sefydliadau'r GIG a gwneud y defnydd gorau o adnoddau deietegol cyfyngedig.

 

Er mwyn cefnogi'r gwaith o weithredu'r safonau maeth ac arlwyo, a gyflwynwyd ym mis Medi 2011, mae arlwywyr a deietegwyr ledled Cymru wedi bod yn cydweithio i lunio Fframwaith Bwydlenni Ysbytai Cymru Gyfan. Cwblhawyd cam un, yn cynnwys prydau bwyd ar gyfer deiet safonol, ac fe'i lansiwyd ar ddiwedd Ionawr 2013. Mae'r Fframwaith Bwydlenni yn cynnwys amrywiaeth o brydau bwyd penodol wedi'u hategu gan gronfa ddata o ryseitiau wedi'u dadansoddi'n faethol. Mae'n rhoi rhywfaint o hyblygrwydd er mwyn ymdopi â gofynion gwahanol ysbytai a'u grwpiau o gleifion. Y nod yw darparu bwydlenni modern er mwyn gwella profiad cyffredinol y claf, tra'n bodloni gofynion maethol pob claf.

 

Mae pob Bwrdd Iechyd wrthi'n adolygu ei fwydlenni cyfredol ac yn cyflwyno eitemau ar y fwydlen y cytunwyd arnynt, gan ddefnyddio'r ryseitiau safonol. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar fanylebau contract Cymru gyfan, er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau maeth ac er mwyn sicrhau bod yr holl gynhwysion sy'n ofynnol ar gontract Cymru gyfan.

 

Bydd y cam nesaf, a gaiff ei gwblhau erbyn diwedd Rhagfyr 2013, yn cynnwys yn canlynol:

 

  • nodi eitemau ar y fwydlen sy'n addas ar gyfer deiet therapiwtig a bwydlenni pediatrig;
  • datblygu templed Cymru gyfan ar gyfer pecyn canllaw ar fwydlenni a hyfforddiant craidd ar gyfer staff arlwyo a ward;
  • datblygu canllawiau i gleifion ar ddewis bwydlenni.

 

3

Bod Llywodraeth Cymru, drwy Stadau Iechyd Cymru (WHE), yn datblygu model clir ar gyfer costio gwasanaethau arlwyo i gleifion a gwasanaethau arlwyo nad ydynt yn ymwneud â chleifion a gaiff ei gymhwyso'n gyson ym mhob un o sefydliadau'r GIG fel y gellir gwneud cymariaethau ystyrlon o gostau arlwyo mewn ysbytai ledled Cymru.

 

Cyflawnir y gwaith o weithredu'r datrysiad TG ar gyfer y Gwasanaeth Arlwyo Cenedlaethol gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - Gwasanaethau Cyfleusterau (NWSSP-FS) sef Stadau Iechyd Cymru gynt.

 

Gallai cyflwyno System TG ar gyfer y Gwasanaeth Arlwyo Cenedlaethol sicrhau buddiannau sylweddol i'r GIG yng Nghymru:

 

  • Bydd yn arwain at well gwasanaeth a chynllunio ariannol ym mhob agwedd ar y gwasanaeth arlwyo;
  • Bydd yn darparu'r wybodaeth fel y gall GIG Cymru ddarparu gwasanaeth arlwyo o'r dulliau a ddefnyddir ar hyn o bryd;
  • Bydd yn cyflawni buddiannau byrdymor megis lleihau costau gweinyddol a chynhwysion;
  • Bydd yn helpu i sicrhau nad yw gwasanaethau arlwyo i gleifion yn gweithredu ar golled;
  • Bydd yn helpu i gefnogi gwelliannau mewn gwasanaethau i gleifion mewnol er mwyn sicrhau y bodlonir safonau cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau maethol.

 

Mae NWIS ac NWSSP-FS yn cynnal ymchwil i ystyried y ffordd orau ymlaen. Trefnwyd ymweliadau a chynhaliwyd cyfarfodydd â chwmnïau i ystyried a allent ddarparu'r datrysiadau angenrheidiol a pha fuddiannau y gallant eu cynnig. Bwriedir trefnu rhagor o ymweliadau. Y cynnig yw i NWIS gyflwyno Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru erbyn 7 Hydref. Bydd yr Achos Busnes Amlinellol yn destun proses graffu pan gaiff ei dderbyn ac ar ôl ymdrin â phob mater caiff ei gyflwyno i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am gymeradwyaeth.     

 

4

Bod targedau lleol a chenedlaethol ar gyfer gwastraff bwyd yn cael eu pennu; fel canllaw dylai sefydliadau'r GIG geisio sicrhau nad yw gwastraff o brydau bwyd nas gweiniwyd yn fwy na 10 y cant.

 

Fel uchod yn adran 5.

5

Bod Llywodraeth Cymru yn dwyn ynghyd yr holl ganllawiau polisi perthnasol mewn perthynas â gwasanaeth arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion yn un fframwaith cenedlaethol cyfredol; dylai fframwaith cenedlaethol cyfredol gael ei lunio gan grŵp polisi amlddisgyblaethol ar gyfer arlwyo a maeth, sy'n dwyn ynghyd staff o adrannau amrywiol Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am y gwasanaethau hyn.

 

Datblygwyd gwefan fewnrwyd sy'n dwyn ynghyd yr holl ganllawiau polisi sy'n cwmpasu gwasanaeth arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion. Mae'r wefan 'Fframwaith Maeth ac Arlwyo mewn Ysbytai', sy'n seiliedig ar fewnrwyd Iechyd yng Nghymru, ar gael ar bob ward ym mhob ysbyty drwy'r porth nyrsio.

 

Goruchwylir cynnwys y wefan gan Grŵp Cydgysylltwyr Maeth mewn Ysbytai Cymru Gyfan, sy'n cynnwys uwch nyrsys arweiniol, deietegwyr, therapyddion lleferydd ac iaith, arlwywyr a swyddogion perthnasol Llywodraeth Cymru.

 

6

Bod Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo pwysigrwydd data EFPMS fel dull o fonitro'r ddarpariaeth o wasanaethau a sicrhau bod digon o ganllawiau a hyfforddiant ar ddiffiniadau data ar gael i staff yng nghyrff y GIG sy'n cyflwyno gwybodaeth.

Mae'r data EFPMS a bennwyd mewn perthynas ag arlwyo wedi cael ei adolygu a'i ddiweddaru gyda chyrff y GIG. Cynhaliwyd cyfarfodydd er mwyn sicrhau bod dealltwriaeth fanwl o ddiffiniadau'r data a'i fod yn cael ei gymhwyso'n gyson. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro cydymffurfiaeth cyrff y GIG.

 

Fel rhan o ymgynghoriad EFPMS â'r Byrddau Iechyd/Ymddiriedolaethau cytunwyd y byddai targed perfformiad o 10% yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â gwastraff bwyd. Ceir maes data bellach hefyd ar gyfer cyfanswm cost gwastraff bwyd.

 

Mae newidiadau i ddiffiniadau data EFPMS, gan gynnwys y rhai ar gyfer arlwyo a maeth wedi'u cwblhau yn unol â'r argymhellion gan Swyddfa Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae NWSSP-FS, mewn trafodaeth â Llywodraeth Cymru, yn ystyried a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i ddiffiniadau data yn flynyddol.   

 

7

Dylai staff Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud ag arlwyo a maeth wneud defnydd mwy cyfunol o ddata EFPMS, ynghyd â data a gasglwyd o'r archwiliadau blynyddol o Hanfodion Gofal, fel dull o ddarparu gwybodaeth am weithredu amcanion polisi cenedlaethol yn lleol.

 

Mae'r angen i wneud defnydd gwell a mwy cyfunol o ddata EFPMS wedi cael ei atgyfnerthu mewn cyfarfodydd â chyrff y GIG. Mae Grŵp Arlwyo Cymru Gyfan yn parhau i gyfarfod er mwyn sicrhau y trafodir y data ac y caiff ei gymharu ar sail genedlaethol. 

 

 


Atodiad 1

 

 

 

Sgôr Weithredol % cydymffurfiaeth

Profiad Defnyddwyr % sgôr

 

2009

2010

2011

2012

2009

2010

2011

2012

BILl Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

 

 

75

 

89.6

 

90.8

 

90.7

 

80

 

93

 

92.3

 

93.1

 

BILl Aneurin Bevan

 

 

81

 

87

 

89

 

90

 

90

 

89

 

94

 

92.7

BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

 

84.6

 

85.5

 

90.7

 

89.8

 

89.8

 

93.2

 

92

 

93.1

BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

 

75

 

90.08

 

90.5

 

90.01

 

79.1

 

91.7

 

90.7

 

91.8

BILl Cwm Taf

 

75.5

85

87

89

90.05

88

95

93

BILl Hywel Dda

 

81.5

87.4

88.4

91

88.5

92.1

93.1

94

Bwrdd Addysgu Iechyd Powys

 

82

92.8

94

91.8

92

95.1

93

97.3

Ymddiriedolaeth GIG Felindre

 

74.7

81.7

88.7

95

74

87.3

91.9

87.5